Dyddiau Olaf Dewi

Fe ddaeth y fynachlog yng Nglyn Rhosyn yn ganolfan addysg enwog. Anfonodd llawer o deuluoedd eu meibion yno er mwyn eu haddysgu. Treuliodd Dewi a'i fynachod eu hoes yn gwasanaethu Duw, gan ofalu am y cleifion a'r anghenus, bwydo'r tlodion, ac edrych ar ôl y gweddwon a'r plant amddifaid. Daeth llawer o bererinion i ymweld â Dewi, gan gynnwys brenhinoedd a thywysogion.

Bu Dewi fyw yn hen iawn. Ac fel aeth y blynyddoedd heibio edrychai ymlaen at yr amser y byddai yn cael mynd i fyw mewn tangnefedd gyda Iesu - yr Un yr oedd wedi cysegru ei fywyd iddo. Un bore oer o wanwyn, pan roedd Dewi a'i fynachod yn gweddïo, daeth ei angel gwarcheidiol ato gan ddweud wrtho ei fod yn amser iddo baratoi ar gyfer ei farwolaeth ymhen yr wythnos, sef ar ddiwrnod cyntaf mis Mawrth. Llanwyd yr eglwys â chân angylion, ac â phersawr hyfryd. Roedd Dewi yn falch i glywed y newydd, ond llefain mewn tristwch wnaeth y mynachod eraill.

Lledodd y newydd hyn am farwolaeth Dewi fel tân drwy'r wlad. Hedfanodd angel ledled Prydain ac Iwerddon gan ddweud y byddai Dewi cyn bo hir yn gadael am y nefoedd. Daeth seintiau o bob rhan o'r ddwy wlad i ymweld â Dewi, ac fe lanwyd y fynachlog â thristwch.

Treuliodd Dewi llawer o'r amser oedd ar ôl yn cysuro'r bobl. Parhaodd i wasanaethu Duw, gan draddodi un o'i bregethau mwyaf nodedig ar y Sul cyn iddo farw. Wedi derbyn y cymun, syrthiodd Dewi yn sâl, a'i eiriau olaf i'r dyrfa oedd, "Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi". Roedd Dewi yn gwybod mai tlodion oedd llawer o'r bobl oedd yn gwrando arno. Nid oedd ganddynt ddim i'w roi, ar wahân i'r rhodd orau un - sef cariad, caredigrwydd a pharch at ei gilydd.

Tridiau yn ddiweddarach, ar y dydd cyntaf o Fawrth, 589 OC, roedd y mynachod i gyd yn yr eglwys ar gyfer y gwasanaeth boreol. Fel roeddynt yn canu, ymunodd llu o angylion yn y gân, ac unwaith eto llanwyd y lle ag arogl persawrus. Yna ymddangosodd Iesu ymhlith yr angylion, a chymryd ysbryd Dewi i'r nefoedd.

Cliciwch yma i ddarganfod sut mae pobl Cymru yn dathlu Dydd Gwyl Dewi.


NOL