Glyn Rhosyn (Vallis Rosina)

Roedd yn gwybod yn iawn lle dylai godi'r fynachlog, am fod ei angel gwarcheidiol wedi dweud wrtho - yn union fel roedd angel wedi dweud i'w dad, Sant. Enw'r lle oedd Glyn Rhosyn, ac roedd yn fan ardderchog i adeiladu mynachlog. Wedi ei leoli mewn cwm ger glan môr Sir Benfro, roedd wedi ei guddio o olwg ymosodwyr; ond medrai ymwelwyr o bell deithio yno ar y môr gan lanio yn y porthladdoedd prysur gerllaw - Porth Mawr a Phorth Clais. Roedd hen ffyrdd Rhufeinig hefyd yn arwain i Lyn Rhosyn, cwm lle rhedai afon fechan o ddðr croyw.

Brwydrau yn erbyn Boia

Roedd Dewi yn eiddgar i ddechrau adeiladu ei fynachlog. Un bore braf aeth gyda'i gyfeillion Aidan, Eliud ac Ismael, a rhai mynachod eraill i'r lle y soniodd yr angel amdano. Wrth iddi nosi, aethant ati i gynnau tân; a chyn bo hir roedd cwmwl o fðg llwydlas yn codi ac yn amgylchynu'r lle.

Heb fod yn bell i ffwrdd roedd Boia, pennaeth Gwyddelig, yn byw. O'i gaer medrai weld y mðg, a dechreuodd bryderu. Fel llawer o Geltiaid eraill, credai fod y tir a orchuddiwyd gan fðg yn eiddo i'r person oedd wedi cynnau'r tân - ac roedd y mðg o'r tân hwn yn ymledu i bob man!

Ofnai Boia mai nid ef a fyddai'n rheoli'r tir bellach. Roedd yn gofidio cymaint nes iddo golli pob blas ar fwyd - peth anarferol iawn mewn rhyfelwr o fri!

Gofynnodd ei wraig iddo beth oedd yn bod. Pan ddywedodd ef wrthi am ei bryderon, atebodd hi a dweud wrtho am fynd gyda'i weision er mwyn lladd y dieithriaid â'u cleddyfau. Credodd Boia fod hyn yn syniad da, ac aeth ar ei ffordd gyda'i ddynion. Fodd bynnag, tra'n teithio fe drawyd Boia a'i weision gan dwymyn a'u gadawodd yn hollol ddiymadferth. Gan eu bod yn rhy wan i ymladd, ceisiodd Boia a'i weision waeddu yn ffyrnig ar Dewi a'r mynachod eraill, gan obeithio codi ofn arnynt, a gwneud iddynt redeg i ffwrdd.

Wedi i Boia a'i weision gyrraedd adref, daeth ei wraig ato gyda'r newydd ofnadwy fod eu hanifeiliaid i gyd wedi marw yn sydyn. Sylweddolodd Boia mai canlyniad i'w ddrygioni ef ei hun oedd hyn, ac aeth yn ôl at y mynachod i ofyn am faddeuant, ac i roi iddynt y tir yr oedd arnynt ei angen er mwyn codi'r fynachlog. Roedd Dewi yn fodlon iawn ar hyn. Yna, gan ddefnyddio'r gallu a roddodd Duw iddo, fe ddaeth â'r anifeiliaid yn ôl yn fyw unwaith eto.

Roedd Boia am anghofio'r hyn a ddigwyddodd, ond roedd ei wraig yn ysu am ddial. Gorchmynnodd i'w morwynion i berswadio y mynachod drwy dwyll i adael y tir. Fe sylweddolodd y mynachod beth oedd y merched yn ceisio ei wneud, ac fe aethant at Dewi gan erfyn arno i godi ei fynachlog mewn rhyw fan arall. Ond ateb Dewi oedd ei fod am aros. Dyma'r fan lle yr oedd Duw am iddynt godi'r fynachlog.

Ar ôl i'w chynllwyn fethu roedd gwraig Boia yn gynddeiriog. Ond yn fuan wedi hynny, heb un esboniad, diflannodd o'r tir, ac ni welwyd hi fyth wedyn - a lladdwyd hefyd Boia ei hun, pan losgwyd ei gaer i'r llawr gan un o'i elynion. O'r diwedd, cafodd Dewi adeiladu ei fynachlog mewn heddwch - yn union fel yr oedd ei angel gwarcheidiol wedi rhagddweud.

Gweithiai Dewi a'i fynachod yn galed o fore hyd hwyr. Roedd Dewi yn feistr llym, ac ni châi'r mynachod siarad wrth eu gwaith heblaw bod yn rhaid iddynt wneud hynny. Roedd Dewi wedi dweud wrthynt mai am Dduw y dylent feddwl tra roeddynt yn gweithio. Galwodd ef y fynachlog yn Menevia, sef Mynyw Newydd.

Nid yw'r fynachlog a adeiladodd Dewi yn bodoli nawr. Ond fe adeiladwyd eglwys gadeiriol brydferth ar y fan lle adeiladodd Dewi y fynachlog wreiddiol. Gelwir yr eglwys gadeiriol hon yn Gadeirlan Tyddewi.

Llun gan Rachel (oed 9)

NOL