Mynd i'r Ysgol

Roedd Non wedi gwybod o'r dechrau y byddai ei mab yn arweinydd mawr. Pan oedd Dewi yn ddigon hen, anfonodd Non ef i fynachlog gyfagos a elwid yn Hen Fynyw. Yr oedd yn le ardderchog i ddysgu am Dduw. Dysgodd y mynachod i Dewi sut i ddarllen ac ysgrifennu, a sut i siarad nid yn unig y Gymraeg ond hefyd Lladin (iaith y byddai pobl ag addysg yn ei siarad yn y cyfnod hwnnw). Fe astudiodd hefyd Mathemateg, Seryddiaeth, a Cherddoriaeth.

Hyd yn oed fel plentyn yn y fynachlog roedd Dewi yn disgleirio'n fwy na'r disgyblion eraill; fel yr oedd yn dysgu ei wersi sylwodd y bechgyn a'r mynachod fel y byddai colomen bob amser wrth ei ymyl. Rhodd gan Dduw i Dewi oedd yr aderyn gwyn, pur a pherffaith. Roedd yn symbol o bresenoldeb Duw, ac yn arwydd hefyd o dangnefedd.

Gweithiodd Dewi yn galed yn y fynachlog; a phan dyfodd yn ddyn ifanc fe aeth yn fynach, sef dyn sanctaidd i Dduw.

Dewi a Peulin

Pan aeth Dewi yn fynach symudodd i fynachlog ger Hendy-gwyn-ar-Dâf. Yma dysgodd Dewi fwy am Dduw ac arferion yr Eglwys gan ei athro, mynach o'r enw Peulin (Paulinus).

Yr oedd Peulin yn hen ddyn. Yn anffodus, wrth iddo heneiddio fe gollodd ei olwg, ac fe aeth yn gwbl ddall. Gweddïodd ar Dduw y byddai un o'i ddisgyblion yn cyffwrdd â'i lygaid ac yn eu gwella. Un ar ôl un ceisiodd y mynachod ifainc wneud hyn, ond heb lwyddiant. Ac yn fuan yr oedd pawb, ond un, wedi ceisio ei wella.

Yna safodd Dewi o flaen Peulin. Roedd Dewi yn swil iawn, ac yn y deng mlynedd yr oedd wedi bod yn fynach yno, nid oedd wedi mentro edrych ar wyneb ei athro. Synnodd Peulin wrth glywed hyn. Roedd ef wedi gwybod erioed fod Dewi yn berson arbennig iawn, a sylweddolodd nawr mai Dewi oedd yr un roedd Duw wedi ei ddewis i adfer ei olwg.

Cyfyrddodd Dewi yn addfwyn â llygaid Peulin, gan wneud arwydd y groes ar ei amrannau. Wrth i Peulin agor ei lygaid yn araf, llanwodd ei wyneb â lawenydd - yn wyrthiol roedd yn medru gweld unwaith eto. Casglodd y mynachod o gwmpas Dewi a Peulin, gan foli Duw am y wyrth ryfeddol.

Amser i symud ymlaen

Yn fuan wedi'r wyrth hon, fe ddaeth angel at Peulin gan ddweud wrtho ei fod yn bryd i Dewi i adael. Yr oedd wedi dysgu llawer yn y fynachlog, ond roedd yr amser wedi dod iddo fynd allan i'r byd a phregethu i eraill.

Teithiodd Dewi ar hyd a lled Prydain yn dweud wrth y bobl am Dduw. Roedd llawer â diddordeb yn yr hyn roedd gan Dewi i'w ddweud, ac roeddynt hefyd am fyw fel yr oedd ef yn byw. Adeiladodd Dewi a'i ddilynwyr ddeuddeg o fynachlogydd yn Lloegr a Chymru cyn iddo fynd adref i Sir Benfro i fyw. Roedd yn gwybod y byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i Benfro, oherwydd i'w angel gwarcheidiol ddweud wrtho mai yn Sir Benfro y dylai wneud ei gartref ac adeiladu ei fynachlog.

*****
The illustrations are by the late Mr. Roger Jones and are used by kind permission of Mrs. Jones and Gomer Press.
They may be found in excellent book "The Story of St. David" by Sian Lewis (published by Pont Books, ISBN 1 85902 230 8).

NOL