Bedyddio Dewi

Yn fuan wedi genedigaeth Dewi cymerodd Non ef i'r eglwys ym Mhorth Clais i'w fendithio gan Dduw. Fe gafodd ei fedyddio gan fynach o'r enw Aelfyw. Roedd y gwasanaeth yn arbennig, yn enwedig i Mofi - y mynach a ddaliai Dewi yn ystod y bedydd. Tra roedd Aelfyw yn taenellu dðr ar y babi, syrthiodd rhai dafnau ar lygaid dall Mofi. Caeodd ei lygaid yn sydyn, ac yna eu hagor gyda syndod ar ei wyneb. Edrychodd o'i gwmpas, gan wenu ar Non ac ar y mynachod eraill. Yr oedd ei olwg wedi ei adfer yn wyrthiol; goleuwyd y tywyllwch, ac roedd yn medru gweld.


Llun gan Vicky


NOL