Non

Rhyw ddiwrnod roedd Sant yn marchogaeth drwy Sir Benfro pan welodd fenyw brydferth iawn o'r enw Non. Syrthiodd y ddau mewn cariad ar unwaith, a chyn hir roedd Non yn disgwyl babi.

Edrychai ymlaen yn eiddgar at enedigaeth ei phlentyn, ac fe aeth ar y Sul i'r eglwys er mwyn rhoi diolch i Dduw amdano. Pan aeth i mewn i'r adeilad, roedd y gwasanaeth eisoes wedi dechrau, a'r mynach yn pregethu. Eisteddodd Non yn dawel yng nghefn yr eglwys, ond wrth iddi eistedd dyma'r pregethwr yn cael ei daro'n hollol fud. Ceisiodd barhau â'i bregeth, ond methodd. Beth oedd yn bod?

Yna cofiodd y mynach am yr hen ddywediad - ni all pregethwr barhau â'i bregeth pan ddaw un sydd yn fwy nag ef i'r ystafell. Gofynnodd i'r gynulleidfa i adael. Er iddynt gael eu synnu, ufuddhaodd y bobl i'w gais. Ond aeth Non i guddio i ryw gornel o'r adeilad. Ceisiodd y mynach ailddechrau pregethu - ond methodd yr eilwaith. Yr oedd felly'n gwybod bod rhywun arall yn dal yn yr adeilad, ac fe ofynnodd i'r person hwnnw i ddangos ei hun. Dychmygwch ei syndod pan ymddangosodd Non! Ond fe sylweddolodd ef mai y babi roedd Non yn ei ddisgwyl oedd yr un a fyddai'n bregethwr mawr. Gofynnodd i Non i adael yr eglwys, er mwyn i'r gynulleidfa i ddod nôl i'w glywed yn gorffen ei stori am Iesu.

Arhosodd Non yn amyneddgar y tu allan i'r eglwys tan i'r mynach orffen pregethu. Sylweddolai pawb fod rhywbeth rhyfedd wedi digwydd. Er bod Non yn berson arbennig iawn, roedd y babi yr ydoedd yn ei ddisgwyl yn fwy arbennig fyth.

Noson Stormus

Aeth y newyddion fod Non yn disgwyl babi drwy'r wlad, ond pan ddaeth i glustiau un o'r llywodraethwyr lleol roedd ef yn ddig iawn. Yr oedd ei ddewiniaid eisoes wedi dweud wrtho y byddai Non yn cael babi a fyddai yn tyfu i fod yn arweinydd mwy nerthol nag ef. Roedd am gael gwared â'r bachgen: ac felly gorchmynnodd i'w ddewiniaid i wylio'n ofalus, ac i ddweud wrtho ar unwaith pan fyddai'r baban wedi ei eni.

Gan fod Non yn sylweddoli ei fod yn amser geni'r bychan, teithiodd i le diogel. Ar noson genedigaeth ei phlentyn, cododd storm ofnadwy. Tra roedd mellt yn hollti'r tywyllwch, a tharanau yn codi braw, syrthiai'r glaw a'r cesair mor drwm nes atal unrhyw un rhag mynd o'r tþ - gan gynnwys y llywodraethwr drwg a'i ddewiniaid. Ond roedd y man lle gorweddai Non yn ddiogel rhag y storm enbyd, ac wedi ei oleuo â golau llachar gan Dduw.

Wrth iddi roi genedigaeth, gafaelodd Non mor dynn mewn carreg nes iddi ei thorri yn ei hanner - a gadawyd ôl ei llaw arni. Ym mhen amser, defnyddiwyd y darn yma fel rhan o sylfeini capel. Pan anwyd y babi, lapiodd Non ef mewn dillad cynnes, a'i ddal yn dynn i'w mynwes er mwyn ei gadw'n glyd. Rhoddodd i'w mab yr enw Dewi.


NOL